Mae’r Sioe Frenhinol  wedi cyhoeddi elw o bron i £210,000 heddiw yn dilyn y nifer uchaf o ymwelwyr erioed y llynedd.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod cyfarfod flynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yng Ngwalchmai.

Fe wnaeth Sioe’r Gwanwyn a’r Sioe Aeaf elw hefyd yn yr un flwyddyn a thorrwyd record ymwelwyr y Sioe Fawr gyda 241,000 yn mynd mewn i’r maes y  llynedd.

Yn ei ddatganiad cyntaf fel cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, dywedodd John T Davies bod yr elw yn ganlyniad gwych i’r gymdeithas yn yr hinsawdd economaidd fregus.

“Rydym yn cychwyn ar gyfnod newydd a chyffrous yn natblygiad parhaus y Gymdeithas,” meddai John T Davies.

“Does dim amheuaeth y bydd her enfawr o’n blaenau ond rwy’n hyderus y bydd y tîm newydd yn eu hwynebu gyda brwdfrydedd ac egni a phenderfyniad i sicrhau y byddwn ni, gyda chymorth ein haelodau a lefel y gefnogaeth gyhoeddus sydd gan y sefydliad gwych yma, yn parhau i ffynnu a llwyddo. “