Bill Roache
Fe fydd achos yn erbyn actor Coronation Street Bill Roache, sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o ferched,   yn dechrau ym mis Ionawr.

Cafodd yr actor 81 oed ei gyhuddo ym mis Mai o ddau achos o dreisio merched 15 oed yn nwyrain Sir Gaerhirfryn ym 1967. Wythnos diwethaf roedd yn wynebu pum cyhuddiad arall o ymosod yn anweddus ar ferched rhwng 11 neu 12 a 16 oed yn ardal Manceinion rhwng 1965 a 1968.

Roedd Roache, o Wilmslow yn Sir Gaer, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Preston heddiw ar gyfer gwrandawiad byr. Cafodd Ionawr 13 ei bennu ar gyfer dechrau’r achos.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth hyd nes ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 2 Medi pan fydd yn cyflwyno ei ble yn ffurfiol.

Dywedodd ei gyfreithiwr wythnos ddiwethaf bod  Bill Roache yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Roache wedi chwarae rhan Ken Barlow yn y gyfres sebon ar ITV ers iddi gael ei lansio ond ni fydd yn ymddangos nes bod y camau cyfreithiol yn ei erbyn wedi dod i ben.