Mae Heddlu’r Gogledd wedi sefydlu tîm arbenigol i ymchwilio i droseddau rhyw.
Fe fydd Tîm Amethyst yn gweithio ledled Gogledd Cymru, ac fe fydd eu pencadlys yn Hen Golwyn.
Bydd y tîm yn cydweithio gyda phartneriaid yng Ngwasanaeth Prawf Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector.
Fe fydd yr uned yn gyfuniad o Dditectif Arolygydd, tri Ditectif Rhingyll, deuddeg Ditectif Gwnstabl, chwe swyddog wedi’u hyfforddi a dadansoddwr.
Eu prif waith fydd cefnogi’r bobol hynny sydd wedi dioddef ymosodiadau rhyw, ac fe fyddan nhw’n helpu i ymchwilio i droseddau.
Dywedodd DI Isaacs o Heddlu’r Gogledd: “O 10 Mehefin bydd Heddlu Gogledd Cymru yn dod â thîm o staff arbenigol at ei gilydd o bob rhan o’r Heddlu i ffurfio un tîm ymroddedig i ymchwilio i drais rhywiol.
“Bydd y tîm yn cydweithio’n agos â phartneriaid yng Ngwasanaeth Prawf Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a chydweithwyr yn y trydydd sector er mwyn ffurfio tîm arbenigol o’r enw Tîm Amethyst.”
Camdrin plant
Fe fydd ymchwilwyr sy’n arbenigo mewn camdriniaeth plant yn helpu dioddefwyr dan 13 oed, a phobol dan 18 oed sy’n cael eu cam-drin gan aelodau’r teulu.
Bydd dioddefwyr dros 13 oed mewn achosion lle nad oes aelod o’r teulu yn rhan o’r achos a’r holl droseddau eraill lle mae’r dioddefwr dros 18 oed yn cael eu cynorthwyo gan aelodau o staff Tîm Amethyst.
Dywed y tîm mai eu prif amcanion fydd:
– gwella gofal i ddioddefwyr,
– gwella ymchwiliadau,
– gwella gwaith partneriaeth drwy weithio ag asiantaethau sy’n ymwneud â throseddau rhyw,
– gwella canlyniadau cyfiawnder troseddol.
‘Cefnogaeth i ddioddefwyr’
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros dro Gareth Pritchard: “Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymdrechu i wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i ddioddefwyr troseddau difrifol ac mae’r Tîm Amethyst yn rhan o’r agwedd o welliant parhaus honno.
“Drwy wella’r berthynas gadarn sydd gennym â’n partneriaid yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Iechyd a’r Sector Gwirfoddol rydym yn benderfynol o sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn ein cefnogaeth ac arweiniad llawn ym mhob cam o’r System Cyfiawnder Troseddol.”
Ychwanegodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Winston Roddick: “Yn gyntaf, rydym yn gobeithio y bydd dioddefwyr yn teimlo’n ddigon hyderus i hysbysu’r Heddlu am y digwyddiad.
“Efallai na fyddant yn teimlo y gallant wneud hynny ond mae’n bwysig eu bod yn cymryd y cam cyntaf ac yn dweud wrth yr Heddlu am y troseddwr er mwyn i’r Heddlu allu mynd ati i ddatrys y broblem.”