Mae pedwar o  bobl yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol yn dilyn digwyddiad mewn ysgol breswyl Islamaidd yn Chislehurst, yn ne ddwyrain Llundain.

Dywedodd Scotland Yard bod dau berson 17 oed a dau 18 oed wedi cael eu harestio’n hwyr neithiwr a’u bod yn cael eu cadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn ne Llundain.

Cafodd 130 o ddisgyblion a staff eu symud o Ysgol Islamaidd Darul Uloom nos Sadwrn ac fe lwyddodd athrawon i ddiffodd y fflamau.

Ni wnaed llawer o ddifrod i’r adeilad ond roedd dau fachgen wedi dioddef o effeithiau anadlu mwg ond ni chafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty.

Daw’r digwyddiad ddyddiau’n unig ar ôl i dân ddifrodi canolfan Islamaidd yn Muswell Hill. Mae’r heddlu’n amau bod cymhelliad hiliol i’r ymosodiad.