Mae ymchwil newydd gan un o noddwyr y Ceidwadwyr yn dangos bod ei blaid wedi methu rhoi hyder i’r cyhoedd ers dechrau’r flwyddyn.

Yn ôl yr Arglwydd Ashcroft, rhaid i’r Ceidwadwyr beidio “siarad ymhlith ein hunain”, a dechrau canolbwyntio ar flaenoriaethau’r etholwyr.

Mae polau piniwn diweddar yn dangos nad oes fawr o fwlch rhwng y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur ymhlith yr etholwyr ar fewnfudo a throseddu, er gwaetha’r ffaith fod y Ceidwadwyr, yn draddodiadol, wedi bod ymhell ar y blaen ar y materion hyn.

Dim ond 25% o etholwyr sy’n dweud eu bod nhw’n fodlon gyda llwyddiant y Prif Weinidog, David Cameron, ond mae’n well gan y mwyafrif weld Cameron yn Brif Weinidog nag Ed Miliband.

28% yn unig o’r bobol a gafodd eu holi ddywedodd fod y Ceidwadwyr yn unedig.

Dim ond 38% ddywedodd eu bod nhw’n ymddiried yn Cameron a’r Canghellor, George Osborne i ymdrin â phroblemau’r economi.

Dywedodd yr Arglwydd Ashcroft: “Dechreuodd eleni’n ddigon addawol.

“Nod arolwg canol tymor y llywodraeth oedd dangos beth oedd wedi’i gyflawni ac fe osododd yr agenda ar gyfer gweddill y cyfnod seneddol.

“Yn y cyfamser, roedd araith y Prif Weinidog ar Ewrop i fod i egluro popeth a gadael i ni siarad am y pethau y cawson ni ein hethol i’w gwneud.

“Mae fy arolwg yn dangos bod y chwe mis diwethaf yn gyfle a gafodd ei golli i wella o ran yr holl bethau fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill yn 2015.”

Ond fe ddywedodd nad oes fawr o newyddion da i’r Blaid Lafur, ychwaith.

“Mae blaenoriaeth Llafur o ddeg pwynt yn gyfarwydd, ond dydy 37% yn fawr o sgôr i wrthblaid sy’n disgwyl cael buddugoliaeth ysgubol ymhen 23 mis.”