Mae ci mawr a gafodd ei hela gan blismyn wedi iddo ladd nifer o ddefaid, wedi cael dychwelyd gartre’.

Roedd y cyhoedd wedi eu rhybuddio ynglyn â’r ci mynydd Bernese, wedi iddo gael ei weld yn crwydro’n rhydd yn Cliffords Mesne, ger Newent yn Sir Gaerloyw.

Fe fu swyddogion arfog yn hela’r anifail, gan ei saethu a’i anafu. Roedd wedi ymosod ar ddefaid nos Fawrth.

“Roedd perchenog y ci yn gwybod beth oedd yn digwydd trwy gydol yr amser,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerloyw.

“Am saith o’r gloch fore heddiw, fe ffonion nhw’r heddlu i ddweud fod y ci wedi dychwelyd gartre’ o’i wirfodd. Mae nawr yn derbyn triniaeth gan filfeddyg.”

Fe all cwn o’r math hwn gyrraedd pwysau o hyd at 6 stôn.