Mae teulu merch ifanc o Birmingham a fu farw ar wyliau yn India ond a gafodd ei dychwelwyd i Brydain gyda rhai o’i horganau mewnol ar goll, yn cyfarfod Gweinidog y Llywodraeth heddiw.

Mae teulu Gurkiren Kaur Loyal a fu farw fis Ebrill wedi bod yn ceisio cael dychwelyd ei horganau i’r wlad yma, ac maen nhw eisiau darganfod beth achosodd ei marwolaeth.

Mae’r cyfarfod rhwng teulu Gurkiren a’r Gweinidog Swyddfa Dramor Hugo Swire yn cael ei gynnal yn y Senedd yn Llundain, a bydd Aelod Seneddol teulu Gurkiren, Shabana Mahmood yn bresennol. 

Mae Ms Mahmood yn galw ar y Llywodraeth i gynnig mwy o gymorth i ail-gynhwyno organnau’r ferch yn ôl i’r wlad yma.