Mae’r ddadl ynglŷn â rhoi’r hawl i gyplau o’r un rhyw i briodi yn dechrau poethi wrth i’r bil gael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi’r wythnos hon.
Yn ddiweddar fe bleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin i alluogi i gyplau o’r un rhyw briodi, ac ar hyn o bryd mae’r Bil Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Fe wnaeth Tŷ’r Cyffredin bleidleisio gyda mwyafrif o 205, ac felly yn ôl rhai os bydd Tŷ’r Arglwyddi yn gwrthod y bil y bydd yn annemocrataidd, gan fod yr Arglwyddi wedi eu penodi yn hytrach na’u hethol.
Mae yna nifer o ddadleuon yn cael eu codi yn y drafodaeth. Ar yr un llaw mae’r rhai o blaid priodasau hoyw yn dweud ei fod yn fater o gydraddoldeb. Ar y llaw arall mae’r rhai sydd yn erbyn priodasau hoyw yn anghytuno gyda beth maent yn ei weld fel ail-ddiffiniad o briodas.
Yn ddiweddar mae nifer o wledydd wedi deddfu i alluogi priodasau hoyw, gan gynnwys Seland Newydd, ac mae’r bil yma yn y Deyrnas Unedig yn cael ei weld fel rhan o’r duedd yma.
Fel rhan o gyfres o bolau piniwn ar wefan Golwg360 rydym ni eisiau gwybod eich barn ar y mater