Mae cadwyn ffasiwn TopShop yn agor ei siop gynta’ yn Hong Kong heddiw. Dyma’r brand gorllewinol diweddara’ i geisio cael troedle yn y farchnad Chineaidd.

Mae Cadeirydd y cwmni sydd berchen TopShop, Syr Philip Green, yn dweud mai ei nod yw defnyddio’r siop gynta’ hon fel cam at sefydlu siopau yn China ei hunan. Mae wrthi’n chwilio am lefydd addas yn ninasoedd Beijing a Shanghai.

Mae’r brandiau eraill sydd wedi mentro i Hong Kong yn cynnwys Abercrombie & Fitch, Tommy Bahama a Forever 21, pob un o’r Unol Daleithiau.

Mae Hong Kong yn gyrchfan siopa boblogaidd ar gyfer pobol o dir mawr China, a hynny oherwydd y trethi isel a’r labeli ffasiynol.