Mae NFU Cymru wedi croesawu arolwg barn gan YouGov sy’n dangos mai lleiafrif o bobol sydd yn erbyn difa moch daear.
Yn ôl arolwg gan gwmni YouGov roedd ychydig tros draean yr atebwyr yn erbyn difa ac fe fyddai chwarter y rheiny’n newid eu meddwl pe bai tystiolaeth fod difa’n atal y diciâu mewn gwartheg.
Fe fydd dau gynllun peilot i ddifa moch daear yn dechrau yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw heddiw ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yn erbyn polisi o’r fath gan ddechrau ar gynllun brechu.
Dyma’r manylion
- Roedd 34% o’r atebwyr yn erbyn y difa.
- Ond roedd 29% yn dweud eu bod yn cefnogi.
- Roedd 22% yn dweud nad oedden nhw’n gwybod.
- Roedd 15% yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddim teimladau cryf am y mater.
Yn ôl NFU Cymru, cafodd 9,000 o wartheg eu difa yn 2012, sy’n gynnydd o 15% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Sylwadau NFU Cymru
“Mae canlyniadau’r arolwg hwn gan YouGov yn dangos bod mwyafrif – 66 y cant – naill ai’n cefnogi difa, nad oes ganddyn nhw farn gref neu nad ydyn nhw’n gwybod,” meddai Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Stephen James.
“Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos nad yw difa moch daear yn fater mawr i ran fwyaf y cyhoedd ym Mhrydain.
“Ond i filoedd o deuluoedd ffermio sy’n byw gyda bygythiad cyson o’r diciâu a’i effeithiau dinistriol ar eu busnesau a’u teuluoedd, mynd i’r afael â’r afiechyd hwn yw’r mater pwysicaf yn eu bywydau.”