Mae undebau llafur yn honni bod 89,000 o swyddi wedi cael eu colli yn y diwydiant adeiladu ers i’r llywodraeth glymblaid ddod i rym yn Llundain.

Mae’r TUC yn rhoi’r bai ar doriadau mewn cynlluniau adeiladu cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, trafnidiaeth ac ysbytai.

Roedd gwario cyhoeddus ar y rheiny wedi gostwng o 37% meddai’r undebau wrth alw am fuddsoddi o’r newydd ar gynlluniau mawr a chodi tai.

Maen nhw’n dweud fod lefelau cynnyrch y diwydiant adeiladu yn is nag ar unrhyw adeg ers 1989 a bod y diwydiant wedi crebachu o 10%, gyda chyflogau’n cwympo £3,000 ar gyfartaledd.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol undeb yr adeiladwyr, UCATT, mae’r polisïau presennol yn “fandaliaeth economaidd”.

Pethau’n gwella, meddai’r Llywodraeth

Gwadu’r honiadau y mae Llywodraeth Prydain gan ddweud eu bod wedi gwarchod gwario cyfalaf a’i ganolbwyntio ar isadeiledd.

“R’yn ni wedi cynyddu ein cynlluniau cyfalaf o fwy nag £20 biliwn yn ystod y cwpwl o flynyddoedd diwetha’,” meddai llefarydd.

“Mae’r economi yn gwella ac mae chwarter miliwn o swyddi sector preifat wedi’u creu.”

Mae’r TUC yn mynnu nad yw’r sector preifat wedi gwneud iawn am y toriadau cyhoeddus.

d  ��h;�=MsoNormal>‘Blaenoriaeth bersonol’

“Mae darparu addysg o’r ansawdd gorau posib yn hynod bwysig a bydd gyrru’r gwelliannau sydd eu hangen yn y gwasanaeth yn flaenoriaeth bersonol i fi,” meddai Ieuan Williams

“Mae’r agenda foderneiddio addysg, wrth gwrs, yn un heriol, ond mi fydd rhaid i ni weithio efo ysgolion a’r gymuned ehangach i daclo llefydd gwag a sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial.”

Mae dau o’r tri chynghorydd Llafur hefyd wedi cael lle ar y cabinet.