Ieuan Williams - yr arweinydd
Mae’r unig Ddemocrat Rhyddfrydol ar Gyngor Môn wedi ymuno gyda’r cynghorwyr annibynnol a Llafur ar y cabinet yno.

Mae penodiad Aled Morris Jones i’r swydd Datblygu Economaidd, Twristiath a Hamdden yn golygu fod aelodau Plaid Cymru wedi eu gadael yn wrthblaid ar eu pen eu hunain.

Fe fydd arweinydd y cyngor, Ieuan Williams, ei hun yn cymryd cyfrifoldeb am un o’r meysydd anodda’, addysg – mae’r cyngor wedi ei feirniadu gan arolygwyr Estyn ac mae disgwyl y bydd rhaid cau ysgolion.

Mae wedi rhoi rhybudd y bydd rhaid i’r cyngor fynd i’r afael â llefydd gwag.

‘Blaenoriaeth bersonol’

“Mae darparu addysg o’r ansawdd gorau posib yn hynod bwysig a bydd gyrru’r gwelliannau sydd eu hangen yn y gwasanaeth yn flaenoriaeth bersonol i fi,” meddai Ieuan Williams

“Mae’r agenda foderneiddio addysg, wrth gwrs, yn un heriol, ond mi fydd rhaid i ni weithio efo ysgolion a’r gymuned ehangach i daclo llefydd gwag a sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial.”

Mae dau o’r tri chynghorydd Llafur hefyd wedi cael lle ar y cabinet.