Heddlu a swyddogion fforensig yn Woolwich (llun PA)
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn gwahanol ysbytai yn Llundain yn dilyn ymosodiad ar aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i farcis yn Woolwich, de-orllewin Llundain ddoe.
Cafodd y ddau eu saethu gan yr heddlu yn dilyn yr ynosodiad ar ddyn yn John Wilson Street ychydig cyn 2.30 brynhawn ddoe. Mae un mewn cyflwr difrifol a llall yn derbyn triniaeth am anafiadau.
Mae yna le i gredu mai ymosodiad terfysgol oedd hyn ac felly bydd COBRA, pwyllgor ymateb brys y llywodraeth, yn ail-gyfarfod y bore yma i drafod y mater.
Mae’r llywodraeth eisoes wedi cadarnhau mai aelod o’r lluoedd arfog gafodd ei ladd ond dyw e ddim wedi cael ei enwi hyd yma.
‘Help for Heroes’
Roedd y dyn, oedd yn gwisgo crys T yr elsuen militaraidd “Help for Heroes” yn cerdded rhyw 200 llath o farics y Royal Artillery yn Woolwich pan gafodd ei daro yn gyntaf gan gar. Daeth dau ddyn allan o’r car wedyn yn cario machetes a gwn a dechrau ymosod arno.
Dywedodd un dyn wrth orsaf radio LBC bod dau ddyn croenddu wedi ymosod yn ffyrnig ar ddyn ifanc.
“Roeddyn nhw’n hacio’r creadur bach, yn llythrennol,” meddai James Heneghan.
“Roedden nhw’n ei hacio fo, yn rhoi’r fwyell iddo fo a’i dorri o.”
Ffilmio
Cafodd y ddau eu ffilmio gan lygad-dystion ac mae un i’w glywed yn dweud ei fod “yn tyngu yn ôl yr Hollalluog Allah na wnawn ni fyth roi’r gorau i ymladd yn eich erbyn.”
Cafodd y ffilm ei throsglwyddo i ITN ac mae’r dyn hefyd i’w glywed yn ymddiheuro bod merched wedi gorfod gweld yr hyn ddigwyddodd gan ychwanegu “Mae’n rhaid i ni eu hymladd nhw fel mae nhw’n ein hymladd ni. Llygad am lygad, dant am ddant. Fyddwch chi bobl byth yn ddiogel. Cewch wared â’ch llywodraeth, tydi ddim ots ganddyn nhw amdanoch chi.”
Ymateb
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi dychwelyd yn fuan o ymweliad swyddogol â Ffrainc er mwyn cadeirio’r cyfarfod o COBRA y bore yma.
Mae Cyngor Mwslemaidd Prydain wedi dweud bod y llofruddiaeth “yn weithred wirioneddol farbaraidd sydd â dim sylfaen yn Islam ac rydym yn condemnio hyn yn gyfangwbl ddiamod.”
Mae aelodau o’r mudiad adain dde, yr English Defence League, eisoes wedi bod yn protestio y tu allan i ddau fosg yn ôl gorsaf newyddion Al Jazeera.