Mae dau o bobl wedi marw ar ôl i ffrwydrad nwy ddifrodi tŷ teras yn Sir Nottingham.

Bu’n rhaid i bobl aros yn eu cartrefi yn dilyn y ffrwydrad nerthol yn Newark.

Daeth diffoddwyr tan o hyd i gorff dyn bore ma wrth chwilio yn y rwbel ar ôl i’r tŷ ddymchwel. Daethon nhw o hyd i ail gorff yn ddiweddarach heddiw.