Fe fydd Aelodau Seneddol heddiw yn trafod deddfwriaeth ddadleuol i  i ganiatáu priodasau hoyw, sydd wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol.

Mae David Cameron yn wynebu gwrthwynebiad gan aelodau’r blaid yn ystod y ddadl.

Mae grŵp o 30 o gadeiryddion a chyn-gadeiryddion y blaid wedi rhybuddio y bydd y cynlluniau’n annog pleidleiswyr Ceidwadol i droi at UKIP ac yn ei gwneud yn amhosib i’r blaid ennill yr etholiad cyffredinol yn 2015.