Llys y Goron Abertawe
Fe fydd rheolwr pwll glo yng Nghwm Tawe lle cafodd pedwar glöwr eu lladd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw.

Bu farw Philip Hill, Charles Breslin, David Powell a Garry Jenkins ar ôl i ddŵr lifo i mewn i’r pwll tra bod y pedwar o dan ddaear.

Mae Malcolm Fyfield, sy’n 57 oed, wedi’i gyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd.

Cafodd ei arestio ym mis Hydref 2011 yn fuan wedi’r trychineb.

Mae’r cwmni MNS Mining hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.