Mae’r BBC wedi ymddiheuro am ddarlledu adroddiad ar raglen Newsnight, oedd wedi cyhuddo’r elusen Help For Heroes o gam-wario arian.
Bydd adran cwynion golygyddol y Gorfforaeth yn cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n dweud nad oes tystiolaeth i brofi’r honiadau.
Dywedodd y BBC fod yr adroddiad Newsnight yn “gamarweiniol” ac yn “annheg”.
Cafodd yr adroddiad ei ddarlledu ar Awst 9 y llynedd, ar sail tystiolaeth a gafodd ei chasglu gan Swyddfa Newyddiaduraeth Archwiliadol y BBC.
Hon oedd yr adran a gasglodd y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad gwallus am gyswllt yr Arglwydd McAlpine â honiadau o gam-drin plant.
Derbyniodd yr Arglwydd McAlpine iawndal o £185,000 yn dilyn achos llys.
Daethpwyd i’r casgliad bod yr adroddiad wedi’i olygu fel ei fod yn cam-ddehongli barn dau gyfrannwr, a bod ymateb Help For Heroes i’r honiadau wedi’i “adlewyrchu’n anghywir”.
Hwn yw’r ail waith yn ddiweddar i’r rhaglen fod o dan y lach, yn dilyn eu penderfyniad i beidio darlledu adroddiad ar ymddygiad rhywiol y cyn-gyflwynydd Jimmy Savile.
Mae adroddiad gan Nick Pollard eisoes wedi ymchwilio i ffaeleddau’r Gorfforaeth yn sgil yr adroddiad ar Jimmy Savile a’r Arglwydd McAlpine.
Gadawodd golygydd Newsnight, Peter Rippon ei swydd yng nghanol y ffrae.
Cyhoeddodd y BBC heddiw fod Dirprwy Olygydd y Guardian, Ian Katz wedi’i benodi yn ei le.
Mae disgwyl i Newsnight gyhoeddi ymddiheuriad am yr adroddiad am Help For Heroes heno.