Yr actor Bill Roache
Fe fydd  yr actor Bill Roache yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y llys heddiw ar gyhuddiad o dreisio merch 15 oed.

Cafodd Roache, 81 oed, sy’n chwarae Ken Barlow yn y gyfres sebon Coronation Street ar ITV, ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Sir Gaer ar 1 Mai a’i gyhuddo’n ddiweddarach o ddau achos o dreisio ym 1967.

Mewn datganiad, dywedodd Roache ei fod wedi ei “synnu ac arswydo” gan y cyhuddiadau yn ei erbyn.