Heddiw, mae darllenwyr Golwg360 yn cael y cyfle cyntaf i wrando ar gân newydd oddi ar albwm newydd Gerogia Ruth Williams, Week of Pines, sy’n cael ei ryddhau ar ar label Gwymon ar 20 Mai.

Hon fydd albwm cyntaf Georgia Ruth ac mae hi wedi cael sylw gan Radio 2 a Radio 6 Music yn yr wythnosau diwethaf wrth iddi hybu’r record newydd.

‘Codi Angor yw’r trac newydd ac mae hi’n ddeuawd rhwng Georgia ac Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog sydd hefyd yn chwarae ym mand Georgia gyda’i frodyr, Aled a Dafydd.

Mae’r trac yma wedi’i dynnu o’r we bellach.