Mae ymchwil newydd yn Yr Almaen yn dangos bod mwg traffig yn gallu achosi clefyd y siwgr ymhlith plant deg oed.

Dangoswyd bod byw’n agos i ffyrdd mawr lle mae lefelau uchel o lygredd o geir a lorïau yn gallu cynyddu imiwnedd plant i insiwlin.

Mae clefyd y siwgr yn lleihau gallu’r corff i reoli lefelau siwgr yn y gwaed gydag insiwlin.

Cafodd effeithiau llygredd ar y ffyrdd eu mesur ar 397 o blant.

Bu’n rhaid i’r plant gael profion gwaed, a chafodd lefelau llygredd eu mesur yn yr ardaloedd lle’r oedd y plant yn byw.

Wrth i lefelau nitrogen ocsid a huddygl gynyddu, mae lefelau gwrthod insiwlin yn cynyddu 17% a 19%.

Yn ôl yr ymchwil, mae’r risg yn cynyddu 7% bob 500 metr yn nes at y ffyrdd.

Parhau i ymchwilio am 15 mlynedd arall

Hwn yw’r cyswllt cyntaf gyda mwg sydd wedi’i brofi, ond mae’r cyswllt ag afiechyd y galon a marwolaethau cynnar eisoes yn wybyddus.

Dywedodd arweinydd yr ymchwil o Ganolfan Ymchwil Almaenig i Iechyd Amgylcheddol, Dr Joachim Heinrich: “Hyd y gwyddom ni, hwn yw’r astudiaeth arfaethedig gyntaf sy’n ymchwilio’r berthynas rhwng llygredd traffig a gwrthiant i insiwlin ymhlith plant.”

Bydd effeithiau llygredd ar y plant yn cael ei fesur am 15 mlynedd arall er mwyn mesur yr effeithiau wrth iddyn nhw droi’n oedolion.

Mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi yn y cylchgrawn Diabetologia.