Mae cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r 40 o ddioddefwyr Jimmy Savile wedi dweud nad yw adroddiad gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn “gwneud synnwyr”.
Yn ôl yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi heddiw, nid oedd yr heddlu wedi amddiffyn Savile rhag cael ei arestio, na chwaith fod ei berthynas gydag aelodau unigol o’r heddlu’n destun pryder.
Daeth i’r amlwg fod rhai o aelodau’r heddlu wedi bod yn mynychu Clwb Bore Gwener yn ei gartref yn Leeds.
Cwestiynau’n dal i godi
Ond dywedodd y cyfreithiwr Alan Collins, sy’n cynrychioli 40 o bobol sydd wedi gwneud honiadau yn erbyn Savile: “Roedd Savile yn gallu rhoi tri thro am un i’r heddlu ers degawdau.
“Fe ddefnyddiodd e swyddogion yr heddlu.”
Ar raglen Daybreak ITV, dywedodd: “Mae’r adroddiad yn esgor ar lawer iawn mwy o gwestiynau.
“Mae’n rhoi ychydig o atebion ond mae’r adroddiad yn datgelu atgofion nad ydyn nhw mor eglur ag y dylen nhw fod, yn ddogfennau ‘methu cofio’ na ellir dod o hyd iddyn nhw.
“Dydy e ddim yn gwneud synnwyr.”
Mae 68 o bobool wedi gwneud cwyn erbyn hyn, ond doedd yna’r un gŵyn pan oedd e’n dal yn fyw.
Rhoddodd yr adroddiad sylw i’r ffordd y gwnaeth yr heddlu ddefnyddio statws Savile i arwain ymgyrchoedd ac apeliadau.
Dywed: “Mae gan y tîm bryderon am absenoldeb proses er mwyn sicrhau gwasanaethau Savile ar gyfer rhai o’r digwyddiadau hyn, a’r gor-ddibyniaeth ar gyfeillgarwch personol a ddatblygodd rhwng Savile a rhai swyddogion dros gyfnod o rai blyneddoedd er mwyn sicrhau’r gefnogaeth honno.”
Ychwanegodd yr adroddiad fod yr heddlu wedi parhau i fanteisio ar y berthynas gyda Savile yn dilyn pryderon gan Heddlu Surrey yn 2007 ei fod e wedi cam-drin plant yn Ysgol Duncroft.