Abu Qatada (PA)
Fe fydd y clerigwr Islamaidd eithafol Abu Qatada yn gwneud cais arall i gael ei ollwng o’r carchar.

Fe fydd yn ymddangos o flaen tribiwnlys mewnfudwyr heddiw ar ôl cael ei garcharu ym mis Mawrth ar ôl torri amodau’i fechnïaeth.

Fe fydd Llywodraeth Prydain yn gwneud cais heddiw i’w gadw dan glo wrth iddyn nhw barhau i geisio’i anfon yn ôl i’w wlad ei hun, Yr Iorddonen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Byddwn ni’n gwrthwynebu’r cais hwn i ryddhau Qatada ar fechnïaeth yn gryf.

“Rydyn ni’n credu ei fod yn risg gwirioneddol i ddiogelwch y wladwriaeth ac y dylai aros dan glo.”

Y cefndir

Mae heddlu Scotland Yard yn ymchwilio’i ymddygiad ar ôl i ddeunydd terfysgol gael ei ddarganfod yn ei gartref pan gafodd ei arestio.

Hyd yma, mae’r llysoedd wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r Llywodraeth anfon Abu Qatada o’r wlad oherwydd y byddai’r Iorddonen yn debfnyddio tystiolaeth yn ei erbyn a oedd wedi ei chasglu trwy arteithio.