Eglwys Gadeiriol Llandaf
Mae dirgelwch tros ymdiswyddiad un o uchel swyddogion esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Llandaf, tua deufis ar ôl iddi gael ei phenodi.

Fe gyhoeddodd swyddfa Archesgob Cymru fod Janet Henderson yn gadael ei swydd yn Ddeon yr esgobaeth – y wraig gynta’ erioed i gael ei phenodi i’r swydd.

Ddeufis yn ôl, roedd yna sylw mawr i’r penodiad a chyhoeddiad ei bod hi’n creu hanes.

Does dim esboniad wedi ei roi tros ei hymddiswyddiad ond, mewn datganiad, fe ddywedodd yr Eglwys ei bod yn mynd ar unwaith a bod ei phenderfyniad wedi ei dderbyn “gyda thristwch”.

Yr Archddiacon, Peggy Jackson, fydd yn cymryd y cyfrifoldebau nes y bydd Deon newydd wedi’i phenodi.

Fe gafodd Janet Henderson ei geni yng Nghastell Nedd a’i magu yn Llandrindod ac Aberystwyth.