Bill Roache (Llun: Dave Thompson/PA Wire)
Mae actor Coronation Street, Bill Roache, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio.

Cafodd yr actor, sydd wedi chwarae rhan Ken Barlow yn yr opera sebon teledu ers i’r gyfres gychwyn yn 1960, ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Swydd Gaer, y bore yma.

Mae Bill Roache, 81, yn wynebu honiad o dreisio merch o dan oed yn Sir Gaerhirfryn rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 1967.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaerhirfryn: “Mae dyn 81 oed o Wilmslow yn Swydd Gaer wedi cael ei arestio gan Heddlu Swydd Gaerhirfryn ar amheuaeth o dreisio.

“Bydd y dyn yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn Swydd Gaerhirfryn yn ystod y dydd.

“Rydym yn cymryd pob honiad o gam-drin rhywiol yn ddifrifol iawn ac rydyn ni’n annog pobl gydag unrhyw wybodaeth am gam-drin rhywiol, neu unrhyw un sydd wedi  dioddef o gam-drin rhywiol, i ddod ymlaen ac adrodd eu pryderon yn hyderus y byddant yn cael eu hymchwilio’n briodol a chyda sensitifrwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran ITV nad oedd y darlledwr mewn sefyllfa i wneud sylw, ond deallir na fydd Bill Roache yn ymddangos yn yr opera sebon tra bod yr ymchwiliad yn parhau.