Y Manic Street Preachers
Manic Street Preachers wedi trefnu cyfres o gyngherddau yn Awstralia i’w galluogi i ddilyn taith rygbi’r Llewod rhwng eu gigs.

Mae’r band o Gymru wedi trefnu sioeau yn Awstralia a Seland Newydd rhwng gemau’r Llewod. Dyw’r band heb ymweld ag Awstralia ers 2010 a hwn fydd eu hymweliad cyntaf  i Seland Newydd.

Dywedodd y grŵp: “Fel cefnogwyr rygbi mawr, mae’r cyfle i ymweld ag un o’n hoff wledydd, chwarae gigs a gwylio’r Llewod yn chwarae Awstralia yn gyfle anhygoel.”

Byddan nhw’n teithio i Awstralia ar ddiwedd Mehefin a byddan nhw’n chwarae yn Melbourne a Sydney i gyd-fynd a’r gemau yn erbyn y Wallabies ac yna’n teithio i Auckland rhwng y gemau.

Fe chwaraeodd y grŵp yn y DU y tro diwethaf  ym mis Rhagfyr 2011 ac mi fyddan nhw’n chwarae yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ger Porthmadog ym mis Medi.