Yn ôl cadeirydd y tasglu sydd wedi cael ei benodi i ystyried dyfodol y Brifwyl gan Lywodraeth Cymru, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ddim yn cael ei leoli ar un safle yn y dyfodol.
Roedd Roy Noble yn siarad ar Newyddion Naw neithiwr yn ei gyfweliad teledu cyntaf ers cael ei benodi gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ym mis Hydref llynedd.
Ond dywedodd Roy Noble bod y tasglu yn edrych a ddylai’r Eisteddfod deithio llai. Un opsiwn meddai yw cael dau safle parhaol fyddai’n cael eu defnyddio’n gyson.
Ar hyn o bryd, mae’r Eisteddfod yn cael grant o £900,000 y flwyddyn gyda £500,000 yn dod gan Lywodraeth Cymru a bron i £400,000 gan gynghorau lleol. Model sydd ddim yn gynaliadwy, yn ôl Cadeirydd y Sioe Amaethyddol sydd eleni’n dathlu 50 mlynedd ar un safle yn Llanelwedd.
“Beth sy’n anochel yw bod y trefniant presennol o gyllido a chefnogi’r Eisteddfod o’r pwrs cyhoeddus ddim yn gynaliadwy,” meddai Cadeirydd y Sioe Amaethyddol, John Davies.
“Yr unig beth allaf i ei ddweud fel cadeirydd bwrdd rheoli’r Sioe yw bod yna fywyd ar ôl canoli.”
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wrth Newyddion Naw ei fod yn credu y byddai hi’n drasiedi petai’r Brifwyl ddim yn parhau i ymweld â gwahanol rannau o Gymru gan mai dyna’r model orau i gefnogi’r iaith Gymraeg, un o brif amcanion y brifwyl.
Bydd y tasglu yn cyhoeddi ei gasgliadau yn yr hydref ond Llys yr Eisteddfod fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.