Mae llyfr ar hanes Caernarfon yn cael ei lansio nos yfory yn y dref.
Mae Hanesion Tre’r Cofis wedi ei ysgrifennu gan T. Meirion Hughes, brodor o Gaernarfon ac un o golofnwyr cyntaf y papur bro lleol, Papur Dre. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Hydref 2002, ac erbyn cyhoeddi’r canfed rhifyn ym 2012 roedd Meirion Hughes wedi ysgrifennu colofn ar gyfer pob rhifyn.
Yn ôl Glyn Tomos, Cadeirydd Papur Dre, cafwyd y “briodas berffaith” pan ddaeth y papur bro a Meirion at ei gilydd.
“Fel hanesydd lleol mae gan Meirion y ddawn ddiamheuol o gyflwyno’r hanes mewn dull cartrefol, braf sydd yn gwneud y cyfan yn fyw ac yn ddiddorol ac yn gwneud i’r darllenydd awchu am fwy,” meddai Glyn Tomos.
Mae adrannau’r gyfrol yn trafod hanes perthynas Caernarfon â’r môr, enwogion y dref, crefydd ac adloniant.
“Mae’r sawl sy’n adnabod Meirion yn gwybod amdano fel gŵr gwir ddiwylliedig ac fel hanesydd lleol ymroddedig,” meddai’r Athro Gwyn Thomas.
“O gyhoeddi’r erthyglau hyn, llwyddodd i gyflawni tasg ryfeddol o anodd, sef ychwanegu at hud hen dref arbennig iawn.”
Chwilotwr
Canmolodd Harri Parri allu Meirion Hughes i chwilota i hanes tref Caernarfon.
“Am flynyddoedd maith bu’n cofnodi’r hyn a glywodd, yn pori drwy gylchgronau a phapurau newydd, yn chwilio dogfennau a chofnodion gan roi’r cyfan ar gof a chadw.
“Mor hawdd ydi anghofio cydnabod cymwynasau a llafur y chwilotwr. Wedi’r cwbl, mae hanes lleol yn hanes pawb, yn hanes pob cyfnod ac yn hanes a ddylai aros. Dyna faint cymwynas gweld cyhoeddi Hanesion Tre’r Cofis.”
Mae lansiad Hanesion Tre’r Cofis yn cael ei gynnal yn Theatr Seilo, Caernarfon nos Fercher, 1 Mai am 7 o’r gloch. Cyhoeddwyr y gyfrol yw’r Lolfa.