Y difrod i do'r adeilad
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn ail-agor ei drysau bore ma ar ôl i dân ddifrodi llawr uchaf a tho’r estyniad brynhawn dydd Gwener.
Fe wnaed difrod sylweddol i strwythur yr adeilad, a oedd yn cynnwys swyddfeydd, ac mae’r Llyfrgell wedi rhybuddio y gallai gostio miliynau o bunnoedd i’w atgyweirio.
Ni wnaed unrhyw ddifrod i storfeydd y Llyfrgell, lle’r oedd y casgliadau yn cael eu cadw.
Mae’r Llyfrgell wedi gorfod adleoli 70 aelod o staff i rannau eraill o’r adeilad.
Y swyddfeydd gafodd eu difrodi yn y tan
Dywedodd Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus: “Rydym am bwysleisio ein bod yn gweithredu fel arfer i’n darllenwyr, defnyddwyr ac ymwelwyr.
“Ddydd Gwener bu i ni gymryd camau rhagofal o ohirio rhywfaint o ddigwyddiadau’r wythnos, ond rydym yn ffyddiog y gallwn ddarparu gwasanaeth llawn i’n defnyddwyr.”
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.