Prif leisydd Def Leppard Joe Elliot gyda'r crys rygbi
Mae tîm rygbi plant yng Nghaerdydd wedi cael noddwyr tra gwahanol- y band roc byd enwog Def Leppard.

Mae’r band wedi penderfynu noddi crysau’r tîm oherwydd bod hyfforddwr tîm dan 10 Rhiwbina, Richard Proctor, yn ffrindiau da gyda’r band wedi iddo ddylunio tri o gloriau albwm y band.

Dywedodd Richard Proctor: “Mae’r bechgyn wrth eu bodd am y peth – does dim llawer o dimau sy’n gallu brolio cael band fel Def Leppard fel noddwr, heb sôn am dîm rygbi i blant.”

Mae prif ganwr Def Leppard, Joe Elliott, wedi dweud ei fod yn falch iawn o gael noddi’r tîm.

“Pan ddywedodd ei fod angen noddwr, fe nes i neidio ar y cyfle, dim ond wedyn wnes i sylweddoli mai tîm rygbi, nid tîm pêl-droed oedd o!” meddai Joe Elliott.

“Fel pob peth â’n logo ni arno, rwy’n credu ei fod yn edrych yn drawiadol,”

“Dwi ddim yn siŵr ei fod yn mynd i warantu tîm buddugol bob wythnos ond, serch hynny, o leiaf bydd y tîm yn edrych yn cŵl.”