Mae tribiwnlys yn cwrdd heddiw i geisio dod â’r anghydfod rhwng y BBC a cherddorion Cymraeg i ben.

Mae’r BBC a chorff hawliau darlledu Eos wedi bod yn dadlau dros y taliadau mae cerddorion yn eu cael am ddarlledu caneuon ar y BBC.

Daeth y ddwy ochr  i gytundeb dros dro ym mis Chwefror er mwyn rhoi diwedd ar foicot o 30,000 o ganeuon Cymraeg ar y BBC. Effeithiodd yr anghydfod yn fawr ar wasanaeth Radio Cymru am nad oedden nhw’n medru chwarae swmp mawr o gerddoriaeth Gymraeg.

Heddiw mae tribiwnlys hawlfraint yn cwrdd am y tro cyntaf yn Llundain er mwyn clywed tystiolaeth gan y ddwy ochr a dod i benderfyniad ymhen rhai misoedd er mwyn rhoi pen y mwdwl ar yr anghydfod.