Fe fydd drama deledu yn portreadu un o drychinebau mwya’ gwledydd Prydain, yn cael ei ffilmio yn ddiweddarach eleni.

Mae rhwydwaith ITV wedi cadarnhau heddiw eu bod nhw wedi comisiynu drama gyfnod The Great Fire of London, a fydd yn dilyn hynt a helynt cymeriadau go-iawn a chwedlonol oedd yn byw ym mhrifddinas Lloegr adeg y tân yn 1666.

O’r becar Thomas Farriner a’i deulu, i’r dyddiadurwr uchelgeisiol Samuel Pepys a’r Brenin Siarl II, fe fydd straeon personol y cymeriadau’n gwau trwy’i gilydd, wrth i’r bywydau newid tu hwnt i bob rheswm.

Fe fydd dinas Llundain ei hun, hefyd, yn gymeriad pwysig yn y ddrama – a#r ddinas hefyd yn cael ei thrawsnewid am byth wrth i strydoedd ac adeiladau enwog gael eu llosgi’n ulw.

Cwmni Ecosse Films fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r ddrama gyfnod. Awdur y ddrama ydi Tom Bradby, golygydd gwleidyddol ITV News.