Mae rhaglenni S4C wedi ennill dwy wobr Torc Efydd ar drydydd diwrnod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013.

Yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd brynhawn ddoe, daeth y ddrama Gwlad yr Astra Gwyn i’r brig yn y categori Pobl Ifanc. Y gyfres Tai Bach y Byd enillodd wobr y Gyfres Ddogfen orau. 

“Mae’r wobr yn destament i ymdrech a brwdfrydedd y cast a’r criw ac mae diolch mawr yn ddyledus i bob un ohonyn nhw,” meddai Bedwyr Rees, cynhyrchydd Gwlad yr Astra Gwyn.  

Ifor ap Glyn o Cwmni Da yw cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd y gyfres Tai Bach y Byd. Roedd y gyfres Gymraeg yn chwaer brosiect i’r gyfres Saesneg, The Toilet – An Unspoken History, gafodd ei darlledu ar BBC4.

Cyn ddoe, roedd S4C wedi ennill dwy wobr yn yr ŵyl, gyda chyfres Jonathan: Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad 2012 yn ennill gwobr y categori Adloniant, a Gwaith/Cartref yn ennill gwobr y Gyfres Ddrama orau yn ystod deuddydd cynta’r digwyddiad.