Mae Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci yn bwriadu dathlu ei chanmlwyddiant gan fynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy ei hanes.
Mae cynhyrchiad cyffrous, Hedfa’r Dychymyg/Flights of Fancy, yn adrodd stori’r adeilad yn ystod digwyddiadau hanesyddol y ganrif ddiwethaf.
Bydd cast o ddwsinau yn cynnwys dawnswyr, cantorion a cherddorion a grwpiau perfformiad cymunedol o bob oed o’r ardal yn rhan o’r cynhrychiad dan gyfarwyddyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a gweledigaeth uchelgeisiol y cyfarwyddwr artistig.
Meddai Phil Williams: “Mae tîm creadigol gwych a chast aml-genhedlaeth wedi dod at ei gilydd i ddathlu canmlwyddiant Theatr Parc a Dâr a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
“Nid yn aml y cewch gyfle i greu gwaith newydd gyda chast a’u hoed yn amrywio rhwng 11-95! Ond dod â’r adeilad eiconig hwn yn fyw oedd yn flaenllaw yn y proseict yma.”
Ffordd berffaith o ddathlu
Mae’r prosiect wedi cwmpasu cerddoriaeth, ffasiwn a symud i gyfleu amser a digwyddiadau o amser y rhyfel drwy’r degawdau ac mae’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Datblygu Cynaliadwy, Hamdden a Thwristiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf yn credu bod y prosiect yn ffordd berffaith o ddathlu’r canmlwyddiant.
“Mae Hedfa’r Dychymyg yn argoeli bod yn brofiad theatrig difyr ac unigryw. Am ffordd wych i ddathlu canmlwyddiant Theatr Parc a Dâr – drwy droi ei chynulleidfaoedd yn deithwyr amser,” meddai Robert Bevan.
“Mae gan y Parc a Dâr hanes balch, wedi gwasanaethu ei gymuned yn dda am y 100 mlynedd diwethaf. Dyma’r amser i ddathlu’r gorffennol hwnnw yn ogystal ag edrych ymlaen at y dyfodol yn un o theatrau gorau Cyngor Rhondda Cynon Taf.
“Mae’r cynhyrchiad yma’n rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau dathlu a gynlluniwyd drwy’r flwyddyn ac rwy’n annog y cyhoedd i fynd draw ac ymuno yn y digwyddiadau pen-blwydd. Bydd hwn yn bendant yn un i sôn wrth y teulu amdano mewn blynyddoedd i ddod.”
Bydd y ddrama yn cael ei chynnal rhwng 14 – 17 Mai ac mae tocynnau ar gael drwy ffonio swyddfa docynnau Theatr Parc a Dâr ar 08000 147 111.