Pete Ham
Fe fydd cofeb i’r cerddor o Abertawe, Pete Ham yn cael ei dadorchuddio yn orsaf drenau’r ddinas yfory.

Ar y diwrnod pan fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 66 oed, bydd plac glas yn cael ei osod ar wal yr orsaf i gofio am y cerddor fu farw’n 28 oed yn 1975.

Mae Ham, oedd yn aelod o The Iveys a Badfinger, yn fwyaf adnabyddus am gyd-ysgrifennu cân a ddaeth yn enwog trwy Harry Nilsson, ‘(I Can’t Live If Living Is) Without You’.

Yn ddiweddarach bu i Mariah Carey recordio fersiwn gan adfer poblogrwydd y gân ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Gig i gofio

Yn dilyn y seremoni, sy’n dechrau am un o’r gloch, fe fydd gig arbennig yn Theatr y Grand, sydd wedi’i threfnu gan Bob Jackson, gynt o Badfinger, am 4.30pm.

Bydd cyn-aelodau’r band yn dod at ei gilydd, ynghyd â gwesteion arbennig, i dalu teyrnged i Peter Ham.

Ddydd Sul, fe fydd carreg fedd newydd yn cael ei dadorchuddio ym mynwent Treforys, lle cafodd ei ludw eu gwasgaru.

Ei fywyd a’i yrfa

Cafodd Pete Ham ei eni yn Abertawe yn 1947.

Daeth i amlygrwydd gyda’i fand The Iveys yn ninas ei febyd ar ddiwedd y 1960au.

Cawson nhw eu harwyddo i label y Beatles, Apple, yn fuan wedyn, a newid eu henw i Badfinger.

Cafodd eu cân ‘Come and Get It’ ei chyd-ysgrifennu gan Paul McCartney, ac fe gafodd Pete Ham y cyfle i gyfeilio ar y gitâr i George Harrison pan ganodd e ‘Here Comes The Sun’ yng Nghyngerdd Bangladesh yn 1971.

Cafodd y band eu harwyddo gan Warner Bros yn 1972, y flwyddyn y daeth ‘Without You’ i amlygrwydd.

Derbyniodd y gân wobr Ivor Novello am Gân y Flwyddyn yn 1973, yn ogystal â sawl enwebiad am wobr Grammy.

Dechrau’r diwedd

Ond daeth tro ar fyd i aelodau’r band, gan gynnwys Pete Ham, ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion ariannol yn dilyn ffrae gyda chwmni Warner Bros.

Cyflawnodd Peter Ham hunanladdiad yn 1975, ac fe fu farw cyd-aelod y band a chyd-awdur ‘Without You’, Tom Evans yn yr un modd wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i albwm o ganeuon arbrofol wedi’u hysgrifennu gan Pete Ham gael ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni.

Fersiwn wreiddiol ‘Without You’ gan Badfinger http://www.youtube.com/watch?v=wnb5JeK1hOo