Ed Holden
Y penwythnos yma, i gydfynd â gorymdaith croesawu Eisteddfod yr Urdd 2014 i Feirionnydd, mae Llenyddiaeth Cymru wedi mynd ati i drefnu llu o weithgareddau llenyddol yng nghalon Blaenau Ffestiniog,

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yn siop Antur Stiniog (Yr Hen Co-op) ar y Stryd Fawr, fydd yn cael ei drawsnewid yn Lolfa Lên am y penwythnos.

Bydd gweithdai i blant a phobl ifanc yng nghwmni Bethan Gwanas, Sian Northey ac Ed Holden, sesiwn stori a chân yng nghwmni Mair Tomos Ifans, grŵp darllen, gig acwstig gydag Iwan Huws, taith gerdded lenyddol, a darlleniad arbennig gan Dewi Prysor.

Odlau Gwyn Thomas a churiadau Anweledig

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Wethdredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae ardaloedd chwarelyddol y Gogledd wedi cyfrannu’n enfawr i ddiwylliant Cymru, o odlau Gwyn Thomas i guriad Anweledig, a braf yw cael cynnal penwythnos Llên y Llechi ar Stryd Fawr y Blaenau.

“Mae’r penwythnos yn rhan o gynllun Llenyddiaeth Cymru i ddod â gweithgarwch lenyddol yn fyw i’n cymunedau. Mae eisoes Lolfa Lên wedi ei chynnal ym Methesda ac yng Nghaerdydd ac efallai daw’r Lolfa Lên i’ch ardal chi yn y dyfodol agos.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.