Mae Heddlu Suffolk yn parhau i ymchwilio ar ôl i ddynes feichiog gwympo i’w marwolaeth mewn maes parcio cyn i gyrff tri o blant gael eu darganfod mewn tŷ.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r maes parcio tua 8yb ddoe yn dilyn adroddiadau bod dynes yn ei 20au wedi dioddef anafiadau difrifol i’w phen mewn maes parcio yn Heol Gordon. Mae hi wedi cael ei henwi’n lleol fel Fiona Anderson.

Yn ddiweddarach daeth yr heddlu o hyd i dri o blant mewn tŷ yn Lowestoft, Suffolk.

Yn ôl adroddiadau’n lleol, roedd y plant yn 3, 2 ac 11 mis oed.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin marwolaethau’r plant fel rhai amheus ond nad oedd unrhyw fygythiad i bobl eraill. Maen nhw’n apelio am wybodaeth.