Y dinistr wedi'r ffrwydradau yn Boston
Cafodd o leiaf tri o bobl eu lladd – gan gynnwys bachgen 8 oed – a mwy na 140 eu hanafu mewn dau ffrwydrad ger llinell derfyn Marathon Boston neithiwr.

Cafodd lluniau eu darlledu yn dangos gwylwyr wedi’u hanafu a rhedwyr yn gorwedd ar y llawr wrth i fwg godi i’r awyr.

Dywed y FBI eu bod yn cynnal “ymchwiliad posib i derfysgaeth” yn dilyn y digwyddiad.

Mae Comisiynydd Heddlu Boston, Ed Davis, wedi wfftio adroddiadau bod rhywun sy’n cael ei amau o’r ymosodiad wedi cael ei arestio.

Mewn darllediad o’r Tŷ Gwyn, dywedodd yr Arlywydd Barack Obama y byddai’r rhai hynny sy’n gyfrifol yn cael eu cosbi’n llym ond roedd wedi osgoi defnyddio’r gair “terfysgaeth”.

Roedd hefyd wedi rhoi teyrnged i’r bobl fu’n helpu’r rhai gafodd eu hanafu gan ddweud bod eu meddyliau gyda’r teuluoedd.

Dywedodd: “Ry’n ni’n dal ddim yn gwybod pwy wnaeth hyn, na pham. Ac ni ddylai pobl neidio i gasgliadau cyn bod y ffeithiau i gyd gynnon ni.

“Ond, heb os, fe fyddwn ni yn mynd i wraidd hyn, ac fe fyddwn ni’n darganfod pwy wnaeth hyn a pham.”

Fe ddigwyddodd y ffrwydradau ger llinell derfyn y ras 26.2 milltir tua phedair awr ar ôl i’r ras ddechrau.Mae’r marathony n denu 23,000 o gystadleuwyr a 500,000 o wylwyr.

Bu trydydd ffrwydrad yn Llyfrgell JFK ond mae’n debyg na chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad yna.

Cafodd dyfais arall ei gwneud yn ddiogel gan dimau difa bomiau.

Mae rhestr o gystadleuwyr ar wefan Marathon Boston yn dangos bod cannoedd o redwyr o Brydain yn cymryd rhan yn y ras.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd unrhyw un o’r 347 o Brydain ymhlith y rhai gafodd eu hanafu.

Fe fydd mesurau diogelwch ar gyfer Marathon Llundain ddydd Sul yn cael eu hadolygu yn dilyn y ffrwydradau yn Boston, meddai’r Heddlu Metropolitan.