Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi mynegi ei phryder ynghylch diffyg gweithgarwch Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygiad tai yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu codi 289 o gartrefi newydd ym Mhenybanc, ac mae yna bryderon y gallai gael effaith negyddol ar y Gymraeg.
Ychydig dros hanner y bobol leol sy’n medru’r Gymraeg, yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2011.
Dywedodd Meri Huws ei bod hi’n awyddus i Lywodraeth Cymru ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 ar frys, ond nad yw’r gwaith hwnnw wedi ei gwblhau hyd yma.
Mae’r Nodyn Cyngor Technegol yn dweud wrth Gynghorau Cynllunio Lleol sut y dylen nhw fynd ati i drin y Gymraeg yn eu gwaith o adolygu cynlluniau adeiladu.
‘Pryderus iawn’
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Dros y deuddeg mis diwethaf, ers dechrau yn fy rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, rwyf wedi bod yn gohebu’n gyson ac yn cwrdd â’r Gweinidogion perthnasol yn dwyn pwysau arnynt i ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 ar fyrder.
“Rwy’n bryderus iawn na chyflawnodd y Llywodraeth y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn, er iddynt ddweud mewn ymateb i lythyr yr anfonais atynt ym mis Ebrill y llynedd, y byddai’r gwaith wedi ei wneud erbyn hydref 2012.
“Ymhellach i hynny, ac fel rhan o fy ymateb i adroddiad monitro blynyddol y Llywodraeth ar y Cynllun Iaith Gymraeg yn Hydref 2012, gofynnais am ddiweddariad pellach ar y gwaith. Yr ateb a gefais bryd hynny oedd y byddai’r ddogfen ar gael ‘yn gynnar’ yn 2013.”
‘Risg gwirioneddol y caiff y Gymraeg ei hanwybyddu’
Ychwanegodd Meri Huws: “Ysgrifennais at Carl Sargeant, wedi iddo ysgwyddo cyfrifoldeb dros y maes cynllunio, yn nodi fy mhryder gyda diffyg gweithredu ymddangosiadol y Llywodraeth ar y ddogfen bwysig hon.
“Yn absenoldeb arweiniad eglur a chyfredol gan y Llywodraeth, mae yna risg gwirioneddol y caiff y Gymraeg ei hanwybyddu o fewn y gyfundrefn gynllunio leol.
“Gallai hynny gael effaith andwyol ar gymunedau ac ardaloedd ble mae’r Gymraeg eisoes yn fregus.
“Mae angen eglurhad pendant gan y Llywodraeth ynghylch pryd caiff y ddogfen ddiwygiedig ei chyhoeddi.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio, Carl Sargeant am ymateb.