Marathon Boston Llun: Tudalen Facebook Marathon Boston
Mae dau o bobl wedi eu lladd ac o leiaf 22 wedi’u hanafu yn dilyn dau ffrwydrad ger llinell derfyn Marathon Boston yn America.

Mae ’na bryderon bod Prydeinwyr ymhlith y rhai sydd wedi cael eu hanafu.

Mae dwy ddyfais arall wedi eu darganfod ar safle’r marathon ac yn cael eu gwneud yn ddiogel ar hyn o bryd, yn ol swyddogion diogelwch.

Mae lluniau ar deledu’r wlad yn dangos rhedwyr a’r rhai fu’n gwylio’r marathon yn gorwedd ar y llawr, gyda’r gwasanaethau brys yn cario pobl sydd wedi’u hanafu o’r safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor  eu bod yn ymwybodol o’r digwyddiad ac yn ceisio cael mwy o wybodaeth.

Credir bod nifer o Brydeinwyr yn cymryd rhan yn y ras 26.2 milltir.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague ar Twitter ei fod wedi ei “frawychu” gan y newyddion a’i fod yn cydymdeimlo gyda’r rhai sydd wedi eu heffeithio ac sy’n aros am newyddion.

Mae’n debyg bod dau fom wedi ffrwydro yn Stryd Boylston tua dwy awr ar ol i’r enillwyr groesi’r llinell derfyn ac mae’r awdurdodau yn cydweithio gyda’r trefnwyr  i geisio darganfod ddigwyddodd.

Mae mesurau diogelwch wedi eu tynhau y tu allan i’r Ty Gwyn yn Washington ac mewn nifer o ddinasoedd yn yr UDA ers y digwyddiad.

Mae Marathon Boston yn un o’r digwyddiadau athletau mwyaf yn yr Unol Daleithiau gan ddenu cannoedd o redwyr a degau o filoedd o wylwyr.