Mae protestwyr gwrth-niwclear o Gymru wedi ymuno mewn gwrthdystiad y tu allan i safle yn yr Alban sy’n cadw arfau niwclear Prydain.
Mae dros gant o gefnogwyr mudiad Scrap the Trident wedi ymgynnull y tu allan i’r safle yn Faslane, yn aber yr afon Clyde ger Glasgow. Roedd 20 o brotestwyr wedi clymu eu hunain i gât ogleddol y safle milwrol.
Maen nhw’n galw am Alban heb arfau niwclear, ac roedd un protestiwr wedi teithio yno o Gymru er mwyn lleisio ei farn yn erbyn y rhaglen Trident.
“Rwyf i yma ar ran pobol Cymru,” meddai Ray Davies, sy’n gynghorydd Llafur yng Nghaerffili ac yn is-gadeirydd CND Cymru.
“Rwyf i yma ar ran fy saith o wyrion, fy neuddeg gor-wyrion ac ar ran plant y byd achos dydyn ni ddim eisiau gweld byd sydd wedi ei wenwyno.
“Ni fydd heddwch yn y byd tra bod arfau niwclear, ac nid dim ond yr arfau ond y llygredd o’r atomfeydd sy’n eu cyflenwi nhw. Mae popeth sy’n gysylltiedig gydag arfau niwclear yn gwenwyno’r planed hardd yma,” meddai Ray Davies.
‘Bwrw Trident i ebargofiant’
Mae’r brotest yn Faslane yn un o gyfres o brotestiadau ar draws y byd yn erbyn gwariant milwrol. Ddydd Sadwrn cafodd rali ei chynnal yn erbyn arfau niwclear yng nghanol dinas Glasgow.
Yn Faslane heddiw dywedodd Patrick Harvie o’r Blaid Werdd, sy’n cynrychioli Glasgow yn senedd yr Alban, fod refferendwm annibyniaeth 2014 yn rhoi’r cyfle i’r Alban “fwrw Trident i ebargofiant.”
Y llynedd dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod “mwy na chroeso” i longau tanfor Trident Prydain gael eu cadw yn Aberdaugleddau petai’r Alban yn dod yn annibynnol.