Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal yn Lerpwl neithiwr i goffáu 96 o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield.

Mae’n 24 o flynyddoedd i heddiw ers i’r drychineb ddigwydd, a hwn oedd y digwyddiad cyntaf i gofio’r rhai fu farw ers i’w teuluoedd ennill yr hawl i gynnal cwestau o’r newydd.

Ceisiodd Heddlu De Swydd Efrog roi’r bai am y trychineb ar y cefnogwyr ond dangosodd tystiolaeth newydd y llynedd fod yr heddlu wedi celu ffeithiau allweddol.

Daeth tua 300 o bobol ynghyd ar gyfer y gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas Lerpwl, lle cafodd cofeb ei dadorchuddio ddydd Sul.

Mae’r gofeb yn nodi’r amser y digwyddodd y trychineb – 3.06pm, pan gafodd y gêm gwpan rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ei gohirio wrth i swyddogion y cae sylweddoli bod cefnogwyr yn cael eu gwasgu ar y terasau.

‘Amser heb bylu’r boen’

Dywedodd Maer Lerpwl, Joe Anderson: “Bedair mlynedd ar hugain, a dydy treigl amser ddim wedi pylu’r boen a’r dioddefaint i chi sydd wedi ymgasglu heddiw.

Ychwanegodd fod y 96 “wedi cael eu hurddas wedi’i dynnu oddi arnyn nhw gan bobol mewn awdurdod” oherwydd eu “celwyddau a’u twyll”.

“Fe aethoch chi ar ôl y gwirionedd, fe wnaethon nhw balu celwyddau. Fe wnaethoch chi sefyll i fyny dros yr hyn oedd yn iawn.”

Dywedodd fod yr ymchwiliad yn “warth cenedlaethol”.

Cafodd yr emyn Abide With Me ei ganu yn ystod y gwasanaeth, cyn cynnal munud o dawelwch er cof am y 96.

Cafodd rheithfarnau’r cwestau gwreiddiol eu diddymu y llynedd gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Jacqui Smith, yn dilyn ymgyrch hir gan y teuluoedd.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd yn ymchwilio o’r newydd i’r trychineb.

Bydd gwasanaeth coffa arall yn cael ei gynnal heddiw ar gae Anfield yn Lerpwl.