Mae’r BBC wedi gwrthod ildio i bwysau i roi’r gorau i ddarlledu rhaglen ddogfen ynglŷn â Gogledd Corea, er gwaetha beirniadaeth hallt a chyhuddiadau ei bod wedi peryglu bywydau myfyrwyr prifysgol yn ystod y daith.

Mae’r gorfforaeth yn bwriadu dangos adroddiad Panorama am fywyd yn y wlad gomiwnyddol heno. Cafodd y rhaglen ei ffilmio gan griw’r BBC oedd yn gweithio’n gudd ymhlith grŵp o fyfyrwyr o’r London School of Economics (LSE).

Yn ôl y LSE, nid oedd y BBC wedi rhannu gwybodaeth bwysig gyda’r myfyrwyr ac fe gawson nhw eu rhoi mewn sefyllfa beryglus.

Mae’r BBC yn honni ei bod wedi rhoi digon o wybodaeth i’r myfyrwyr am y peryglon posib fel eu bod yn gallu rhoi caniatâd llawn ar gyfer y daith.