Mae’r BBC wedi gwadu honniadau pennaethiaid prifysgol y London School of Economics bod y gorfforaeth wedi achosi perygl difrifol i fyfyrwyr tra’n ffilmio’n gudd yng Ngogledd Korea.

Roedd tri newyddiadurwr o’r rhaglen materion cyfoes ‘Panorama’ wedi ymuno â chriw o fyfyrwyr o’r LSE ar daith i’r wlad.

Roedd y myfyrwyr wedi cytuno i adael i’r newyddiadurwr deithio efo nhw, ond heb gael gwybod bod dau arall ar y daith hefyd yn gweithio i’r BBC.

Y gohebydd profiadol John Sweeney oedd y newyddiadurwr, oedd yn teithio fel myfyriwr PhD er mwyn cael mynediad i Ogledd Korea.

Mae Cyfarwyddwr yr LSE, yr Athro Craig Calhoun wedi dweud wrth Sky News bod y BBC wedi bod yn anghyfrifol.

“Roedd yna gelwyddau a thwyll o’r cychwyn cyntaf gan roi myfyrwyr mewn perygl ac achosi problemau difrifol i’r rhai fydd yn gwneud gwaith ymchwil ac yn teithio fel myfyrwyr yn y dyfodol,” meddai.

Galwodd ar y BBC i ymddiheuro ac i beidio darlledu’r rhaglen Panorama: North Korea Undercover.

Mae dau o’r myfyrwyr oedd ar y daith a rhieni un arall hefyd wedi mynegi pryderon am ymddygiad y BBC.

‘Panorama’ yn gwadu’r cyhuddiadau

Mae’r BBC wedi gwadu honniadau’r Athro Calhoun. Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran ‘Panorama’ y bydd y rhaglen yn cael ei darlledu fel arfer a bod y myfyrwyr wedi cael eu rhybuddio am y peryglon o ganiatau i newyddiadurwyr deithio efo nhw.

Yn ôl datganiad roedd trefnwyr y rhaglen ”yn sylweddoli y dylid dweud wrth y myfyrwyr o flaen llaw bod newyddiadurwr yn bwriadu teithio efo nhw oherwydd y perygl ychwanegol a rhoi cyfle iddyn nhw benderfynu os yr oeddyn nhw am fwrw ymlaen. Fe gawson nhw’r wybodaeth a’u hatgoffa mewn da o bryd iddyn nhw newid eu cynlluniau.”

Mae’r Athro Calhoun yn cydnabod bod y myfyrwyr yn gwybod y buasai newyddiadurwr yn teithio efo nhw ond yn mynnu na chawson nhw hefyd wybod pwy oedd o na bod dau newyddiadurwr arall hefyd ar y daith yn ffilmio.

Mae’r gohebydd John Sweeney wedi dweud mewn trydar ei fod yn llwyr anghytuno efo honiadau yr LSE.