Hywel Wyn Edwards, sy'n ymddeol fel trefnydd eleni
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi penodi prif reolwr Adran Gorawl Symffoni Dinas Birmingham fel ei threfnydd newydd.

Fe fydd Elen Huws Elis yn cychwyn ar ei swydd ym mis Medi, gan gymryd lle Hywel Wyn Edwards a fydd yn ymddeol.

Yn wreiddiol o Dreffynnon, mae Elen Huws Elis yn rheoli pum côr ar hyn o bryd a chyda’r chweched ar fin ei lansio.  Mae ganddi brofiad eang ym myd cerddoriaeth, fel cerddor proffesiynol, rheolwr ac fel asiant.

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi penodiad Elen Huws Elis fel Trefnydd newydd yr Eisteddfod.  Mae gan Elen brofiad helaeth yn y sector gerddorol, ac mae ganddi hefyd ddealltwriaeth gref o waith yr Eisteddfod.

“Daw Elen â sgiliau ac arbenigedd newydd i’r tîm, ac rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda hi, pan fydd yn cychwyn ddiwedd yr haf.

“Ac wrth benodi Elen ac edrych ymlaen at yr Eisteddfod eleni, mae’n gywir ein bod yn talu teyrnged i’r Trefnydd presennol, Hywel Wyn Edwards, a fydd yn ymddeol ymhen ychydig fisoedd.  Bu Hywel gyda’r Eisteddfod am ugain mlynedd, a mawr yw ein diolch am ei ymroddiad a’i gyfraniad dros y blynyddoedd.”