Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Dorothy Jones o Langwm yw enillydd Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams er clod eleni.

Mae’r Fedal yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Mae Dorothy Jones yn derbyn y Fedal am ei gwaith yn ardal Llangwm yn Uwchaled ers iddi symud yno o’i hardal enedigol, Trawsfynydd, yn 1955.

Fe fu’n athrawes ac yn bennaeth yr Adran Anghenion Arbennig yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, am flynyddoedd lawer, gan gynnig hyfforddiant i genedlaethau o bobl ifanc wrth iddynt baratoi ar gyfer eisteddfodau’r Urdd, perfformiadau Nadolig a sioeau cerdd.

Mae hefyd yn awdur ugeiniau lawer o gerddi difyr ar gyfer plant ac ieuenctid, ac wedi cyfansoddi nifer o ganeuon i’w perfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen gan bobl ifanc Uwchaled ac Aelwyd Llangwm yn arbennig.

“Mae ymroddiad a chyfraniad Dorothy i’w chymdeithas yn Llangwm yn amhrisiadwy,” meddai llefarydd ran yr Eisteddfod.

“Am flynyddoedd bu ynghlwm â phob math o weithgaredd cymunedol a diwylliannol, gan roi cyfle i genedlaethau o ieuenctid yr ardal gael eu trwytho a’u magu yn niwylliant ein cenedl, gyda chariad at yr iaith a threftadaeth Cymru’n agos at ei chalon.

“Mae brwdfrydedd a chyfraniad Dorothy yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.”