Mae nifer o anifeiliaid gan gynnwys llawer o ymlusgiaid wedi cael eu lladd yn ystod tân mewn s
ŵ yn Polbeth, Gorllewin Lothian yn ystod oriau mân y bore.

Cafodd diffoddwyr eu galw i sŵ Five Sisters ychydig cyn pedwar o’r gloch y bore ac er eu bod wedi llwyddo i achub nifer o anifeiliaid gan gynnwys dau grocodeil bach a dyfrgi mae perchnogion y sŵ wedi cadarnhau bod nifer helaeth o ymlusgiaid a phryfaid wedi marw.

Roedd unarddeg injian dân ar y safle ar un adeg yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban ac roedd rhai diffoddwyr yn parhau yno ganol y bore.

Mae Heddlu’r Alban yn ymchwilio i achos y tân ar hyn o bryd.