Cafodd dau ddyn a dynes eu hachub oddi ar Grib Goch yn Eryri brynhawn ddoe ar ôl iddyn nhw lwyddo i ddal sylw criw hofrennydd yr Awyrlu oedd yn ymarfer yn yr ardal.

Roedd y tri wedi mynd i drafferthion ar lethrau Grib Goch ac fe gafon nhw eu codi ar fwrdd yr hofrennydd a’u hedfan oddi ar y mynydd.

Doedd yr un o’r tri wedi ei anafu.

Mae yna rew ac eira ar lethrau mynyddoedd Eryri o hyd yn dilyn tywydd oer mis Mawrth.

Fe gafodd nifer o gerddwyr a dringwyr eu hachub yn yr ardal dros gyfnod y Pasg.