Baner Gogledd Korea
Mae llywodraeth Gogledd Korea wedi gwrthod cynnig gan Dde Korea i drafod yr argyfwng rhwng y ddwy wlad.

Mae yna amheuon bod llywodraeth Gogledd Korea yn paratoi i danio taflegryn ac mae nhw eisoes wedi bygwth ymosod ar Dde Korea a’r UDA.

Yn ôl llywodraeth y Gogledd yn Pyongyang, “tric cyfrwys” yw’r cynnig gan Dde Korea i gyfarfod a thrafod gan ychwanegu nad yw’n ddim ond ymdrech i guddio atgasedd y De tuag at y Gogledd.

Roedd rhai yn gweld cynnig De Korea fel un oedd yn profi bod y wlad yn lliniaru tipyn ar ei gwrthwynebiad cryf i fygythiadau’r Gogledd i ymosod ar Seoul a Washington yn dilyn cynnal ymarferiadau milwrol ar y cyd rhwng lluoedd De Korea a’r Unol Daleithau.

Yn y cyfamser mae Gweinidog Gwladol yr UDA, John Kerry yn Japan ar derfyn ei daith pedwar niwrnod trwy Asia i drafod y tensiynau ar benrhyn Korea.

Dywedodd Mr Kerry bod China “o ddifrif” wrth addo bod o gymorth i ddatyrs y tensiynau efo Gogledd Korea.