Mae Ofcom wedi dyfarnu bod y sioe I’m a Celebrity… Get Me Out Of Here! wedi torri’r côd darlledu pan gafodd merch Charlie Brooks, un o’r cystadleuwyr, ei rhoi mewn “sefyllfa lle’r oedd yn cael ei gweld fel rhyw fath o wobr.”
Roedd Ofcom wedi derbyn 66 o gwynion am y sioe ar ITV pan gollodd yr actores yn EastEnders y cyfle i weld ei merch Kiki, 7 oed, wrth gymryd rhan yn un o’r sialensiau.
Brooks, sy’n dod o Harlech, oedd enillydd y sioe sy’n cael ei ffilmio yn y jyngl yn Awstralia.
Fe ddyfarnodd Ofcom bod y sioe wedi torri rheol am ddeunydd a allai dramgwyddo gwylwyr “drwy gynnig plentyn saith oed fel gwobr mewn cystadleuaeth.”
Dywedodd Ofcom bod ’na “bryder difrifol am ymddangosiad Kiki yn y rhaglen”. Ond ychwanegodd bod y sioe wedi cymryd gofal i sicrhau “lles emosiynol” Kiki ac nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod wedi peri “pryder diangen” iddi.
Nid oedd Brooks yn ymwybodol bod ei merch yn cymryd rhan yn un o’r sialensiau ar y pryd, ac roedd yn feirniadol o’r penderfyniad ar ôl y sioe gan ddweud ei fod wedi bod yn “dorcalonnus”.