Bydd mam ifanc o Gaernarfon yn cael ei mentora gan Syr Tom Jones ar ôl iddi wneud ei marc yn canu ar raglen y BBC ‘The Voice’ neithiwr.
Dyma’r eildro i Alys Williams gystadlu ar ‘The Voice’ ond chafodd hi mo’i dewis gan yr un o’r beirniaid llynedd.
Eleni beth bynnag fe wnaeth ei pherfformiad o gân ‘The Cave” gan Mumford & Sons blesio’r pedwar.
Roedd Jessie J, Will.i.am, Danny Donoghue a Syr Tom Jones yn barod i’w mentora ar gyfer y rownd nesaf ond fe wnaeth hi ddewis Syr Tom Jones, a ddywedodd fod ganddo’r hyn oedd yn angenrheidiol i ddatblygu ei gyrfa sef “profiad, profiad a phrofiad”.
Mae Alys yn fam i efeilliad ac yn ferch i Ann Llwyd oedd yn un o aelodau’r grŵp ‘Hapnod’ yn nyddiau cynnar S4C.
“Roeddwn i yn nerfus iawn llynedd,” meddai Alys. “Fedrwn i ddim anadlu, fe wnês i dagu ac fe wnaeth fy llais ddarfod. Roedd o yn union fel bod yn y môr efo siarc yn dod ar fy ôl.
“Mae cael cystal ymateb pan wnês i ddim cystal llynedd yn golygu llawer i mi. Roedd dod yn ôl am yr eildro yn goblyn o gambl!”